Peth 3: Y brand

Dwi’n teimlo’n chwithig iawn yn edrych mewn i hyn a tydi gwglo fy enw fy hun ddim yn rhywbeth y byddai’n gwneud bob dydd. Dwi di holi Bruce eto ac mae brand yn dderbyniol fel term – yn well na ‘dynodiad’ neu ‘label’ dwi’n meddwl!

Felly beth ydi fy mrand proffesiynol? Pan oeddwn i’n gweithio hefo’r Gwasanaeth Llyfrgell i Ysgolion cefais fy adnabod fel Bethan Llyfrgell gan y rhan fwyaf o athrawon! Y dryswch pennaf yw fod na Bethan Mair Hughes arall yn gweithio yn y byd llyfrau Cymraeg (cyn-olygydd Gomer sydd bellach yn hyrwyddwr llawrydd). Dros y blynyddoedd rydyn ni’n dwy wedi derbyn ebyst a llythyrau i’r Bethan arall. Dwi’n tueddu i ddefnyddio Bethan M Hughes – lle mae’r Bethan arall yn fwy adnabyddus fel Bethan Mair (ac yn fwy adnabyddus beth bynnag!). Roeddwn i’n edrych trwy Rhestr Testunau Eisteddfod Sir Ddinbych 2013 neithiwr – dwi’n beirniadu Gwobr Goffa Daniel Owen – a dwi lawr fel Bethan Hughes. Mae Bethan Mair yn beirniadu yn 2014 – ac mae hi lawr fel Bethan Mair Hughes!! Be wnewch chi?!

Ta waeth, dwi di bod ar Gwgl – ac os dwi’n rhoi Bethan M Hughes hefo neu heb llyfrgell neu library ar ei ôl, dwi’n dod i fyny yn weddol gywir – fel awdur canllawiau i grwpiau darllen a sgwennais i’r Cyngor Llyfrau sawl blwyddyn yn ôl neu adroddiad eithaf diweddar ar gyfraniad llyfrgelloedd i addysg plant. Dwi hefyd yno fel tysteb i awdur a wnaeth ymweliadau i ni unwaith neu mewn rhestr o aelodau paneli’r Cyngor Llyfrau. Ac mae’r blog yma yn dod i fyny fel canlyniad rhif 12! Roedd na lawer o ganlyniadau ‘anghywir’ hefyd wrth gwrs – mae na delynor Bethan Myfanwy Hughes a sawl Bethan Hughes arall. Dyna’r drwg heb enw anghyffredin dybiwn i! Fe wnes i chwilio ar Bing a doeddwn i ddim yn bodoli!

Dwi’n cadw fy mrandiau proffesiynol a phersonol ar wahan ar y cyfan (mae gen i ddwy safle Facebook gwahanol er enghraifft). Mae gen i ‘brand’ gyda fy nghwiltio – ac wrth gwglo Bethan M Hughes quilt dwi’n cael y saith canlyniad cyntaf (ac mae’r blog newydd i cwiltcymru yn dod i mewn yn rhif 18 ac 19!).

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Peth 2: Blogiau pobl eraill

Wedi bod yn crwydro o gwmpas ac mae na filoedd! Felly, er mwyn cadw pethau dan reolaeth ychydig, neu fe fydda’i wedi gwastraffu oriau yn pori, dyma benderfynu edrych ar y blogiau sydd â rhyw gysylltiad Cymreig a llyfrgelloedd. Dyma gychwyn hefo rhain:

http://alyson23things.wordpress.com/

http://helen-ceridwen.blogspot.co.uk/

http://niaber.blogspot.co.uk/

Dyma’r unig un hyd yma sy’n defnyddio’r Gymraeg hyd y gwela i – yn blogio’n ddwyieithog yn eithaf aml:

http://llyfrgellyddcymraeg.blogspot.co.uk/

O.N. Ydi ‘blog’ yn wrwaidd neu’n fenywaidd? Tydi’r gair dim yn ‘Bruce’ – fe fydd raid imi holi a chwilota.

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Peth 2: Wedi creu blog ‘go iawn’

Cefais fy ysbrydoli yn dilyn cychwyn cpd23 i greu blog y tu allan i’r gwaith. Dwi’n artist cwiltiau yn fy amser fy hun ac yn aelod o grwp o’r enw Cwilt Cymru. Roedden ni angen rhyw fath o bresenoldeb arlein ac felly dyma fynd ati i greu cwiltcymru.wordpress.com. Fe gymerodd tua hanner diwrnod o waith, ond dwi bellach yn teimlo yn llawer mwy cyfarwydd â’r rhaglen WordPress ac wedi llwyddo i greu tudalennau o fewn tudalennau, wedi mewn-osod (embed?) pdf o erthygl cylchgrawn, creu orielau lluniau – a phostio negeseuon. Mae tipyn mwy o waith i’w wneud arno ond dwi’n falch iawn ohonno hyd yn hyn!

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Yn y dechreuad

Dyma’r tro cynta erioed i mi sgwennu neges mewn blog! Dwi di arfer sgwennu datganiadau i’r wasg, a bellach yn defnyddio Facebook yn y gwaith (sydd yn eitha gwahanol i’w ddefnyddio’n bersonol!) – ond bydd angen dod o hyd i lais newydd ar gyfer blog mae’n debyg. Felly dyna un peth dwi isho ymarfer.

Dwi di penderfynu blogio yn Gymraeg ar gyfer cpd23 – dwi heb ddarganfod os oes na rywun arall yn gwneud eisoes. Un her fydd dod o hyd i’r cywair iaith priodol – ddim rhy ffurfiol ac eto ddim yn rhy anffurfiol. Dwi di bod yn chwarae hefo gosodiadau wordpress – mae modd cael bron y cwbl o’r safle yn Gymraeg – ond nes dwi di arfer hefo’r ‘jargon’ dwi am ei adael yn y gwreiddiol neu fe fydda i wedi drysu fy hun.

Dwi’n dilyn cpd23 er mwyn dysgu rhagor am Web 2.0 mewn ffordd mwy strwythuredig. Dwi di darllen blog Alyson Tyler o CyMAL http://alyson23things.wordpress.com/ – difyr iawn oedd darllen ei hymateb hi i’r gwahanol declynnau a sianelau.

Mae marchnata Gwasanaeth Llyfrgell Sir Ddinbych yn un o fy nghyfrifoldebau. Rydym eisoes ar Facebook ers tua 5 mis (Llyfrgelloedd Sir Ddinbych Denbighshire Libraries). Rydym wedi penderfynu bod angen sefydlu blog i’r gwasanaeth – a hoffwn er enghraifft weld darllenwyr a defnyddwyr yn blogio i ni fel gwesteion. Dwi’n gobeithio perswadio dau gyd-weithiwr i ymuno hefo fi i ddilyn cpd23 hefyd.

Felly i ffwrdd â fi – dwi’n ymuno dau fis ar ôl i’r cwrs gychwyn ond ta waeth!

Posted in Blog Cymraeg | Tagged , | Leave a comment