Peth 3: Y brand

Dwi’n teimlo’n chwithig iawn yn edrych mewn i hyn a tydi gwglo fy enw fy hun ddim yn rhywbeth y byddai’n gwneud bob dydd. Dwi di holi Bruce eto ac mae brand yn dderbyniol fel term – yn well na ‘dynodiad’ neu ‘label’ dwi’n meddwl!

Felly beth ydi fy mrand proffesiynol? Pan oeddwn i’n gweithio hefo’r Gwasanaeth Llyfrgell i Ysgolion cefais fy adnabod fel Bethan Llyfrgell gan y rhan fwyaf o athrawon! Y dryswch pennaf yw fod na Bethan Mair Hughes arall yn gweithio yn y byd llyfrau Cymraeg (cyn-olygydd Gomer sydd bellach yn hyrwyddwr llawrydd). Dros y blynyddoedd rydyn ni’n dwy wedi derbyn ebyst a llythyrau i’r Bethan arall. Dwi’n tueddu i ddefnyddio Bethan M Hughes – lle mae’r Bethan arall yn fwy adnabyddus fel Bethan Mair (ac yn fwy adnabyddus beth bynnag!). Roeddwn i’n edrych trwy Rhestr Testunau Eisteddfod Sir Ddinbych 2013 neithiwr – dwi’n beirniadu Gwobr Goffa Daniel Owen – a dwi lawr fel Bethan Hughes. Mae Bethan Mair yn beirniadu yn 2014 – ac mae hi lawr fel Bethan Mair Hughes!! Be wnewch chi?!

Ta waeth, dwi di bod ar Gwgl – ac os dwi’n rhoi Bethan M Hughes hefo neu heb llyfrgell neu library ar ei ôl, dwi’n dod i fyny yn weddol gywir – fel awdur canllawiau i grwpiau darllen a sgwennais i’r Cyngor Llyfrau sawl blwyddyn yn ôl neu adroddiad eithaf diweddar ar gyfraniad llyfrgelloedd i addysg plant. Dwi hefyd yno fel tysteb i awdur a wnaeth ymweliadau i ni unwaith neu mewn rhestr o aelodau paneli’r Cyngor Llyfrau. Ac mae’r blog yma yn dod i fyny fel canlyniad rhif 12! Roedd na lawer o ganlyniadau ‘anghywir’ hefyd wrth gwrs – mae na delynor Bethan Myfanwy Hughes a sawl Bethan Hughes arall. Dyna’r drwg heb enw anghyffredin dybiwn i! Fe wnes i chwilio ar Bing a doeddwn i ddim yn bodoli!

Dwi’n cadw fy mrandiau proffesiynol a phersonol ar wahan ar y cyfan (mae gen i ddwy safle Facebook gwahanol er enghraifft). Mae gen i ‘brand’ gyda fy nghwiltio – ac wrth gwglo Bethan M Hughes quilt dwi’n cael y saith canlyniad cyntaf (ac mae’r blog newydd i cwiltcymru yn dod i mewn yn rhif 18 ac 19!).

About Bethan

Reading Services Manager, Denbighshire Libraries
This entry was posted in Uncategorized. Bookmark the permalink.

Leave a comment